Rhagori wrth asesu ym myd addysg
Croeso i AlphaPlus
Busnes gwasanaeth addysg yw AlphaPlus sy’n arbenigo ym meysydd safonau, asesu ac ardystio. Rydym yn helpu ein cleientiaid i ddylunio, datblygu, defnyddio a gwerthuso cymwysterau a’r asesiadau sy’n sail iddynt. Rydym yn gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, mewn ysgolion a cholegau, gydag addysg alwedigaethol a phroffesiynol. Mae tua hanner ein gwaith yn dod o dramor.
Mae AlphaPlus yn helpu sefydliadau i wella eu hasesiadau addysgol. Mae llawer o sefydliadau yn defnyddio asesiadau – arholiadau academaidd, asesu sgiliau drwy bortffolio, asesu drwy arsylwi ar bobl broffesiynol yn y gweithle. Ym mhob un o’r achosion hyn, asesiadau da sy’n sicrhau’r canlyniad haeddiannol: y bobl gywir sy’n llwyddo neu’n methu; dyfarnu graddau teg; canlyniadau cywir a dibynadwy y mae modd eu cyfiawnhau, ac sy’n adlewyrchu nodweddion a gwerthoedd y rhanddeiliaid.
Fel ei gilydd, mae llywodraethau, rheoleiddwyr, cyrff ardystio a chyhoeddwyr oll yn ymddiried yn AlphaPlus i ddatblygu gwasanaethau addysg ac asesu sy’n helpu gwella cyfleoedd bywyd dysgwyr. Mae ein gwaith wedi’i lywio gan y dystiolaeth ac mae’n canolbwyntio ar drawsnewid – drwy dechnoleg, cwricwla blaenllaw, a dulliau sy’n gweithio i addysgwyr a’r dysgwyr y maent yn gweithio ar eu cyfer. Rydym yn angerddol o blaid gwireddu ‘cyfleoedd i bawb’.
Ein gwaith
Safonau addysg a chwricwlwm
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
- Datblygu cymwysterau
- Safonau galwedigaethol
- Cwricwla ac adnoddau dysgu
- Polisi a llywodraethu
Asesu ac ardystio
Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
- Datblygu asesiadau
- Cyflenwi asesiadau ac ardystio
- Technoleg asesu
- Rheoleiddio a chydymffurfio
Ein gwaith
Ein cyrhaeddiad byd-eang
- Anguilla
- Barbados
- Brunei
- Bwlgaria
- Ffrainc
- Ghana
- Grenada
- Groeg
- Guyana
- India
- Kenya
- Kosovo
- Lesotho
- Mozambique
- Myanmar
- Nigeria
- Oman
- Qatar
- Rwanda
- Saudi Arabia
- Seychelles
- Singapore
- Unol Daleithiau America
- Y Deyrnas Gyfunol
- Yr Almaen
- Yr Emiradau Arabaidd Unedig
- Yr Iseldiroedd